Proverbs 18

1Mae'r un sy'n cadw ar wahân yn plesio ei hun,
ac yn gwrthod unrhyw gyngor doeth.
2Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall,
dim ond lleisio'i farn ei hun.
3Mae dirmyg yn dilyn y drwg,
a gwawdio yn dilyn gwarth.
4Mae geiriau rhywun fel dŵr dwfn;
ffynnon o ddoethineb fel nant yn llifo.
5Dydy dangos ffafr at yr euog ddim yn beth da,
na gwrthod cyfiawnder i'r dieuog.
6Mae geiriau ffŵl yn achosi ffrae;
mae'n gofyn am drwbwl!
7Mae siarad ffŵl yn arwain i ddinistr;
mae'n cael ei rwydo gan ei eiriau ei hun.
8Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus –
mae'r cwbl yn cael ei lyncu.
9Mae'r un sy'n ddiog yn ei waith
yn perthyn yn agos i'r fandal.
10Mae enw'r Arglwydd fel tŵr solet;
mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff.
11Ond caer ddiogel y cyfoethog ydy ei gyfoeth;
mae'n dychmygu ei fod yn wal uchel i'w amddiffyn.
12Cyn i'r chwalfa ddod roedd digon o frolio;
gostyngeiddrwydd sy'n arwain i anrhydedd.
13Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno
yn beth dwl i'w wneud, ac yn dangos diffyg parch.
14Gall ysbryd rhywun ei gynnal drwy afiechyd;
ond mae iselder ysbryd yn faich trwm i'w gario.
15Mae'r person call am ddysgu mwy;
ac mae'r doeth yn chwilio am wybodaeth.
16Mae rhoi rhodd i rywun yn agor drysau
i gyfarfod pobl bwysig.
17Mae'r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawn
nes i rywun ddod a'i groesholi.
18Mae taflu coelbren yn rhoi terfyn ar ffraeo,
ac yn setlo dadl ffyrnig.
19Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer;
a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell.
20Rhaid i rywun ddysgu byw gyda'i eiriau;
mae dweud y peth iawn yn rhoi boddhad.
21Mae'r tafod yn gallu rhoi bywyd a marwolaeth;
ac mae'r rhai sy'n hoffi siarad yn gorfod byw gyda'u geiriau.
22Mae'r dyn sydd wedi ffeindio gwraig yn hapus;
mae'r Arglwydd wedi bod yn dda ato.
23Mae'r person tlawd yn pledio am help;
ond mae'r cyfoethog yn ei ateb yn swta.
24Mae rhai ffrindiau yn gallu brifo rhywun,
ond mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.
Copyright information for CYM